The gateways project has been a collaborative project involving history research, oral history interview training, storytelling and artist sculptures.
A group of young people who have all been linked to Plas Bellin Hall the main base of Save The Family, homeless charity. Many of the young people have personally been affected by homelessness, whilst others have been in the youth project for additional support.
The group have all taken on roles within the project to focus on, as well as being part of the decision making as a whole. Each young person picked areas that interested them to specifically work on, so some focused on research, storytelling (writing the legend of Plas Bellin Hall) and sculptural designs.
The first element of the project was to research the history of Plas Bellin Hall, researching online, in local records offices and from word of mouth. Next the young people were training in Oral history interviewing, it enables them to learn how best to get a person to open up and tell their story, while respecting that a person’s story is a part of them and very precious.
The young people then interviewed each other and told their stories, not everyone wanted to share them, and no pressure was ever placed on them to open up. Those who wanted to recorded their story, to be used for the website and to share for the next stage.
Then the young people worked with a storyteller to create a fictional story with elements of both then history of Plas Bellin Hall and their stories. They learn about traditional storytelling, patterns that storytellers use to remember the tales and traditions in numbers or creatures.
Finally the young people have taken their story to a local artist to create a sculptural trail that highlights areas of the story. Working together they created designs that can be followed and interacted with to tell the story and inspire people to find out more.
All of the young people have helped make the decisions about the project directing designs, logos, photographs to use; layouts and procedures throughout.
As you look through our website, please keep in mind that this is a project created by the young people to express themselves and their stories. The stories from which the sculptures are created is inspired by the young people’s own stories (some included here on the website) and the history of Plas Bellin Hall discovered by the group.
.
Thank you for visiting our website, we hope you enjoy it.
Croeso
Cywaith yw prosiect etifeddiaeth y pyrth sy’n ymwneud ag ymchwil hanes, hyfforddiant cyfweliadau hanes llafar, dawn dweud stori a cherfluniau gan artist.
Mae yma griw o bobl ifanc sydd i gyd wedi bod yn gysylltiedig â Phlas Belyn, sef prif ganolfan Save The Family, elusen i’r digartref. Mae llawer o’r bobl ifanc wedi bod yn ddigartref eu hunain, ac eraill wedi dod at y prosiect ieuenctid am gefnogaeth ychwanegol.
Mae pob un o’r criw wedi cymryd rôl o fewn y prosiect i ganolbwyntio arni, yn ogystal â chyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau’n gyffredinol. Dewisodd pob person ifanc faes o ddiddordeb arbennig i weithio arno, felly canolbwyntiodd rhai ar ymchwil, dweud stori (ysgrifennu chwedl Plas Belyn) a dylunio cerfluniau.
Elfen gynta’r prosiect oedd ymchwilio i hanes Plas Belyn, trwy ymchwil ar-lein, mewn archifdai lleol a thrwy holi pobl. Nesaf, cafodd y bobl ifanc hyfforddiant ar holi hanes llafar, i’w dysgu sut i gael pobl i ymddiried ynddyn nhw a siarad a dweud eu hanes, tra’n parchu’r ffaith fod stori rhywun yn rhan ohono/ohoni ac yn werthfawr iawn.
Wedyn bu’r bobl ifanc yn holi ei gilydd a phob un yn dweud ei hanes ei hun. Nid pawb oedd yn awyddus i rannu ei stori, ac ni roddwyd pwysau ar neb i wneud. Cafodd pawb gyfle i recordio’i stori pe dymunai, i’w rhoi ar y wefan a’i rhannu i’r cam nesaf.
Wedyn gweithiodd y bobl ifanc gyda storïwr i greu stori ddychmygol gydag elfennau o hanes Plas Belyn a’u hanesion hwythau. Cawsant ddysgu am chwedleua traddodiadol, y patrymau a ddefnyddir gan storïwyr i gofio’r chwedlau, a thraddodiadau’n ymwneud â rhifau neu greaduriaid.
Yn olaf, aeth y bobl ifanc â’u stori at artist lleol i greu llwybr cerfluniol sy’n amlygu rhannau o’r stori. Cydweithiwyd i ddylunio cerfluniau y gellir eu dilyn a rhyngweithio â nhw i ddweud yr hanes ac ysbrydoli pobl i ddarganfod mwy.
Cafodd pob un o’r bobl ifanc helpu gwneud y penderfyniadau ar gyfer y prosiect, gan gyfarwyddo’r gwaith dylunio, creu logos, dewis pa luniau i’w defnyddio, a sut i drefnu a gweithredu pob cam o’r broses.
Wrth ichi fwrw golwg dros ein gwefan, cofiwch mai prosiect yw hwn a grëwyd gan y bobl ifanc i fynegi eu hunain a’u hanesion. Mae’r storïau y crëwyd y cerfluniau ohonynt wedi’u hysbrydoli gan hanesion y bobl ifanc eu hunain (rhai ohonynt i’w gweld yma ar y wefan) a hanes Plas Belyn a ddarganfuwyd gan y criw.
Diolch am ymweld â’n gwefan, a gobeithio y mwynhewch hi.