The Legend of Plas Bellin
Edmund Douglas Wills was the sheriff of Flintshire. No one knows how long ago.
He was a rich and powerful man, and met, wooed and married the woman of his
dreams. They had four children – a son and three daughters.

All was well until one dark, cold, winter his son and heir died. He was devestated. Day after day he sat at the graveside, mourning his son and cursing at fate. Then he heard of a man who could help. Far off in Georgia, he heard, there was a wizard who knew the secrets of the earth and the heavens, and might even have the key to the kingdom of death itself.
Edmund left kith and kin behind and went to Georgia to find this wizard. He begged the wizard to bring his son back, but the wizard refused. Eventually, though, he accepted Edmund as his apprentice.
Thus started seven long gruelling years of study. Edmund learnt about the stars
in the sky, the herbs of the field and the best time to pick them, and the secrets of the earth. Day by day, month by month, year by year he got closer to his goal – knowledge of the kingdom of death. At last he was ready to do his masterwork and take his mage name.
Using all the skills he had learnt, all his knowledge, and all his powers he entered the realm of the dragons and slew a great red wyrm. He took the name Blackthorn Dragonslayer and was now a full mage, in the prime of his powers.
The hide and bones of the dragon weren't wasted. He took them deep into the secret places of the earth and had the dwarves, the hidden folk, fashion talismans of power from them. A dragonstooth sword, a dragonscale shield, a staff and key of dragons bone, and a cup carved from one incisor.
At last he returned home, to the joy of his wife and daughters, and with his
powers he enchanted a tree in the forest. From that day on someone wielding the
sword and shield, using the staff and cup, and performing certain secret spells
and rituals would open a portal to a place where the dead and the living can
meet. There the living and the dead can sit down to a meal and talk as if they
are of the same world; talk as if the dead were still
alive.
This satisfied Blackthorn for a while, but in the mundane world he still needed heirs, so he adopted four sons. This was to prove to be a mistake. His family knew of the tree, and had been taught the rituals. One son coveted power and found a way to get it.
On a dark, moonless night he made his way into the forest and through the portal. There he called up the shade not of a loved one, but of an ancient and evil king. This king had been a sorcerer of might in his day, and now moved across the barriers which separate the kingdom of death from our world, and with him came his army.
Blackthorn Dragonslayer had been woken by the misuse of the magic, and called
upon his family to help. There in the forest that night the seven of them fought the traitorous son, the evil king and his army. Storms rages across the land, lightning lit the sky for miles around, and great swathes of land were laid bare, but at last the evil king and his army were banished back to the netherworld.
The battle had exhausted the wizard, and drained his life force. His remaining children carried him back to the house. With his last energy he made them swear to keep the portal a secret, and to guard it from ever again being used for evil.
Chwedl Plas Belyn
Edmund Douglas Wills oedd siryf Sir y Fflint, amser maith yn ôl. Roedd yn ddyn cyfoethog a phwerus. Fe gyfarfu â merch ei freuddwydion, a cheisio ei llaw, a’i phriodi. Cawsant bedwar o blant – mab a thair merch.
Roedd popeth yn dda tan, un gaeaf oer a thywyll, bu farw ei fab a’i etifedd. Dyna ergyd greulon oedd hon! Ddydd ar ôl dydd, eisteddai ar lan y bedd, yn galaru ar ôl ei fab ac yn melltithio’i ffawd. Wedyn clywodd am ddyn a allai helpu. Ymhell i ffwrdd yn Georgia, yn ôl y sôn, roedd dewin a wyddai gyfrinachau daear a nef, ac a allai hyd yn oed fod â’r goriad i deyrnas angau ei hun yn ei feddiant.
Gadawodd Edmund ei deulu a’i gydnabod a theithio draw i Georgia i ddod o hyd i’r dewin. Erfyniodd ar y dewin i ddod â’i fab yn ôl, ond gwrthod wnâi’r dewin. Ymhen hir a hwyr, serch hynny, derbyniodd y dewin Edmund yn brentis iddo.
Dyna gychwyn saith mlynedd hir a chaled o astudio. Dysgodd Edmund am y sêr yn y nen, am lysiau’r maes a’r adeg gorau i’w codi, ac am gyfrinachau’r ddaear. Fesul dydd, fesul mis, fesul blwyddyn, nesaodd at ei nod – sef adnabod teyrnas angau. O’r diwedd roedd yn barod i gyflawni ei gampwaith a chymryd ei enw dewiniol.
Gan ddefnyddio’r holl alluoedd a ddysgodd, ei holl wybodaeth a’i holl bwerau, aeth i mewn i fyd y dreigiau a lladd draig goch fawr. Cymerodd yr enw Mieryn Bendragon, ac roedd bellach yn ddewin llawn, yn anterth ei rym.
Chafodd croen ac esgyrn y ddraig mo’u gwastraffu. Aeth â nhw’n ddwfn i ddirgel fannau’r ddaear a chael y tylwyth teg cudd i lunio talismonau grym ohonynt. Cleddyf o ddant draig, tarian o gen draig, paladr ac allwedd o asgwrn draig, a chwpan wedi’i gerfio o un blaenddant.
O’r diwedd, dychwelodd adref, er mawr lawenydd i’w wraig a’i ferched, a gyda’i bwerau fe wnaeth swyn ar bren yn y goedwig. O’r diwrnod hwnnw ymlaen byddai’r sawl a gariai’r cleddyf a’r darian, a ddefnyddiai’r paladr a’r cwpan, ac a gyflawnai swynion a defodau cyfrinachol arbennig, yn agor porth i fan lle gall y meirw a’r byw gyd-gyfarfod. Yno, gall y byw a’r meirw eistedd am bryd o fwyd a sgwrsio fel pe baent o’r un byd; sgwrsio fel petai’r meirw’n dal yn fyw.
Roedd hyn yn ddigon i fodloni Mieryn am sbel, ond yn y byd go iawn roedd arno angen etifeddion o hyd, felly mabwysiadodd bedwar mab. Camgymeriad oedd hyn. Roedd ei deulu’n gwybod am y goeden, ac wedi dysgu’r defodau. Roedd un mab yn awchu am rym, ac wedi canfod ffordd i’w gael.
Ar noson dywyll, ddi-leuad, aeth i’r goedwig a thrwy’r porth. Yno galwodd gysgod, nid cysgod un o’i hynafiaid annwyl, ond cysgod hen frenin dieflig. Roedd y brenin hwn wedi bod yn ddewin grymus yn ei ddydd, a nawr croesodd y ffin rhwng teyrnas angau a’n byd ni, a dod â’i fyddin gyda fo.
Roedd Mieryn Bendragon wedi cael ei ddeffro gan gamddefnydd yr hud, a galwodd ar ei deulu i helpu. Yno yn y goedwig y noson honno brwydrodd y saith ohonynt yn erbyn y mab bradwrus, y brenin dieflig a’i fyddin. Rhuodd stormydd ar draws y tir, taniodd mellt gan oleuo’r awyr am filltiroedd, a difethwyd darnau mawr o dir a’u gadael yn foel, ond o’r diwedd cafodd y brenin drwg a’i fyddin eu gyrru’n ôl i’r is-fyd am byth.
Roedd y frwydr wedi diffygio’r dewin yn lân, a dwyn ei egni i gyd. Cafodd ei gario’n ôl i’r tŷ gan ei blant, a gyda’i anadl olaf gwnaeth iddynt dyngu llw i gadw’r porth yn gyfrinach, a gwarchod rhag iddo byth gael ei ddefnyddio i ddibenion drwg eto.